Mai 29ain
daeth grŵp o ddysgwyr i weld yr arddangosfa, arweiniodd penny d jones y daith
Dyma fanylion rhodd Rhôd i’r dysgwyr:
Mae Rhôd yn sioe gelf gyfoes sydd yn cynnig cyfle i greu gwaith safle-benodol mewn sawl cyfrwng, gan gynnwys cerflunio, gosodiad, perfformiad, celf sonig, gweithgaredd celf rhyng- berthynol; celf amserlinol.
~
celf gyfoes : contemporary art (gweithgaredd celf ers tua 1950/art made since around 1950)
gwaith safle – benodol : site-specific work (gwaith sydd yn ymateb i leoliad arbennig ac o’r oherwydd ni ddylai gael ei arddangos eto er yn aml gellir ei ail fodelu ar gyfer gofod newydd / work made in response to a particular place and so should not be shown again although it often is remodelled to fit a new space)
cyfrwng : medium
cerflunio : sculpture (unrhyw waith tri-dimensiwn /any three dimensional work)
gosodiad: installation ( gwaith a adeiladir yn y safle; yn aml mae’n cyfuno nifer o weithiau celf a mewn sawl cyfrwng i greu profiad o ymgolli/work that is built within a site, often made up of a number of different art works and different media to create an immersive experience)
perfformiad : performance ( celf lle mae’r artist yn defnyddio ei g/chorff fel y cyfrwng i’r gwaith. Gall gynnwys perfformwyr eraill, dawns, drama, meim neu symudiad mwy rhyddieithol/ art that involves the artist using their own body as the medium of the work. This can involve other performers, dance, drama, mime or more prosaic movement.)
gweithgaredd celf rhyng-berthynol: participatory and relational art (celf sydd yn ymchwilio’r berthynas rhwng y gwaith a’r gynulleidfa gan ddefnyddio deialog, cyfathrebu a rhyngweithio gan dynnu sylw’r cyfranogwyr i’r berthynas a grewyd. Mae’r artist yn gweithredu fel catalydd yn hytrach na ffocws y gwaith/art that explores the relationship between the work and the audience and uses dialogue, communication and interaction to bring the focus of participants to the relationship created. The artist is the catalyst rather than the focus of the work
celf amserlinol : time-based art (ffilm,fideo, perfformiad ac unrhyw waith sydd i newid dros gyfnod o amser/ film, video, performance and any piece of work that is designed to change over time)
TERMAU/GLOSSARY OF TERMS
DEUNYDDIAU/MATERIALS
Elizabeth Waterhouse.
Darluniau o adar ar ffenestri yn y coed/Bird sketches on windows in the trees
Sean Olsen
blychau sain pren/wooden sound boxes; blychau bwydo adar/bird feeders [yn yr ardd/in the garden]
Roger Lougher
Coeden wedi cwympo a’i hail osod; weiren/fallen tree re-assembled; wire
Sera Wyn Walker a Bob Gelsthorpe
Print teip c; byrddau OSR/c type print; OSR boards
Toby Downing a Sean Vicary
Olwyn ddŵr bren; peiriant hudlusern/wooden water wheel; magic lantern machine
Sam Vicary
Paent olew a pren/oil paint and wood [yn yr ardd/in the garden]
Acrylig ar bapur/acrylic on paper [yn y felin/in the mill]
penny d jones
Llyfrau sgetsh o waith llaw, papur wedi’i ailgylchu, pensil, yr amgylchedd a thwein. Handmade sketchbooks with recycled paper, pencil, the environment and string. [yn yr ardd/in the garden ac yn y felin/in the mill]
George Manson
Hysbysfwrdd/noticeboard
Gemma Green-Hope
Blwch gwydr a phlanhigion/Glass box and plants
Jade Mellor a Jake Whittaker
Poteli gwydr yn nodi planhigion gwyllt i’w helbori/glass domes marking wild plants to be foraged.
Mark Halliday a David Shepherd
Castio mewn efydd/bronze casting [dydd Sul yn unig/ Sunday only]
Beatrice Williams a Kathryn Campbell Dodd
Ffilm Sheared/Cneifio; Brethyn Llwyd : print digidol ar bapur lliain cotwm/digital print on cotton rag paper
Mae melin flawd wedi bod ar y safle hwn ers 1658, ac o bosib ynghynt. Mae’r adeilad presennol yn dyddio o’r ail ar bymthegfed ganrif [17c]. Bryd hynny, roedd Felin Newydd yn eiddo i Arglwyddiaeth Cilgerran. Yn y flwyddyn 1800, y melinydd oedd Ebenezer Rees, a oedd hefyd yn bregethwr Methodistaidd adnabyddus. Ar fap y degwm 1839, plwyf Llangeler, [gweler copi yn y ffolder] Margaret Rees oedd y perchennog a David Evans yn felinydd.
Yn lleol, mae’r felin heddiw yn cael ei hadnabod fel Melin Ronald, ar ôl y perchennog Ronald, a oedd yn gawr o ddyn ac yn dipyn o chwedl. [mae llun ohono ar ddiwrnod carnifal pan fyddai’n arwain yr orymdaith]. Roedd gan Ronald fusnes gwerthu bwyd anifeiliaid gyda’r stordy tu cefn i’r hen felin – lle mae seiliau’r adeilad newydd nawr.
Rydym wedi adnewyddu’r olwyn ddwr a wnaed yn wreiddiol gan T. Thomas o Aberteifi a felly mae’r rhod yn troi unwaith eto – yn y man ein bwriad yw ei defnyddio i gynhyrchu trydan ar gyfer ein cartref newydd.
Melin flawd/flour mill Gorymdaith/procession
Melinydd/miller Stordy/warehouse
Pregethwr/preacher Seiliau/foundations
Map y degwm/tithe map Adnewyddu/restore
Perchennog/owner
Olwyn ddwr/rhod : waterwheel/rhod can also mean fate [wheel of fortune]
Mae hon yn engraifft prin o felin flawd gyda’r holl offer a pheriannau dal yn eu lle:
Pwll y felin/mill pond Cafn/leat
Ceuddrws/launder Hopran/Hopper
Cocos, dant olwyn /wheel tooth Gogor/riddle
Carreg Farchog/Runner Stone
Cerrig Cymru i falu’n gyffredinol / Welsh Stone for general grinding
Cerrig Ffrench i falu’r llafur a’r gwenith/ French Stone to grind corn and wheat